Adnoddau Ysgol
Ein nod yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol trwy feithrin diddordeb cynnar yn y farchnad ynni adnewyddadwy sy’n tyfu.
–
Wedi’u hanelu at athrawon, mae ein hadnoddau rhagarweiniol wedi’u hanelu at lefel gynradd ac uwchradd, ynghyd ag ymarferion dilynol hwyliog wedi’u cynllunio ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
–
Take a Deep Dive into marine Plymiwch yn ddwfn i ynni adnewyddadwy morol! energy!
Adnoddau Ysgolion Cynradd
Rydym wedi datblygu ein hadnoddau addysg ar-lein ac rydym yn eich gwahodd i’w llawrlwytho a’u defnyddio. Rhennir y deunyddiau hyn yn rhydd, ond mae angen eu credydu. Yn cynnwys cyflwyniad i Powerpoint Ynni’r Môr (gyda nodiadau), ynghyd ag ymarfer dilynol.
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Adnoddau i’w llawrlwytho:
Adnoddau Ysgolion Uwchradd
Cyflwyniad yn ymdrin ag ynni adnewyddadwy morol: Amrediad llanw, ffrwd lanw a thonnau. Mae disgyblion yn ymchwilio i sut mae’r technolegau hyn yn cael eu datblygu i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a disbyddu adnoddau.
Wedi’i rannu’n ddwy sesiwn gydag animeiddiadau adeiledig a chwestiynau Asesu ar gyfer Dysgu. Mae’r cynnwys yn cwmpasu elfennau o fodiwl 1 TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd CBAC a modiwl 3 TGAU Ffiseg CBAC. Mae deunydd ychwanegol wedi’i gynnwys i helpu disgyblion i ddeall sut mae’r dechnoleg yn gweithio, gan gynnwys animeiddiad o anwythiad electromagnetig.
Mae’r deunyddiau’n ymdrin â mathau adnewyddadwy o gynhyrchu, rôl y grid cenedlaethol a’r angen i gydbwyso cyflenwad a galw. Darperir diagram Sankey ar gyfer generadur ffrwd llanw generig. Trafodir manteision ac anfanteision pob math o ynni’r môr. Ymdrinnir â’r heriau o leoli generaduron yn yr amgylchedd morol, ynghyd â’u potensial i gyfrannu at gyrraedd sero net i’r grid trydan.
Darperir nodiadau athrawon ar y sleidiau.
Darperir taflen ddilynol (pdf) gyda chwestiynau arddull deall ac asesu.
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r gwaith hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Priodoliad 4.0.
Gallwch addasu a rhannu cynnwys y cyflwyniadau hyn i addysgu am ynni’r môr. Mae’n ofynnol i chi gydnabod Ynni Môr Cymru os gwnewch hynny.