Marine Energy Wales

Home » Darganfod » Beth yn Ynni’r Môr?

Beth yw ynni’r môr?

Mae’r moroedd o amgylch arfordir gwyllt Cymru yn un o’n hasedau mwyaf, ac yn ffynhonnell ddiddiwedd o bŵer cynaliadwy, di-ben-draw.

Mae technolegau adnewyddadwy morol yn manteisio ar ddwysedd ein tonnau, llanw a gwynt ar y môr i droi tyrbinau a chynhyrchu ynni.

Mae sut rydym yn trosi’r egni hwn yn amrywio yn dibynnu ar y math o ffynhonnell pŵer a’r amodau. Cymerwch gip ar rai o’r enghreifftiau isod i weld sut mae dyfeisiau’n gweithredu.

WYDDECH CHI?

Llanw

Amrediad Llanw

Yr enw ar y gwahaniaeth mewn uchder rhwng llanw isel a llanw uchel yw Amrediad Llanw. Mae morlyn neu forglawdd adeiledig yn llenwi ar gynnydd yn y llanw ac yn storio’r dŵr. Wrth i’r llanw ddisgyn, mae dŵr yn rhuthro heibio i dyrbinau generadur.

Llanw

Ffrwd Lanw

Chwyddir symudiad y llanw o amgylch pentiroedd a thrwy sianeli cul, megis rhwng ynys a’r tir mawr. Defnyddir yr egni cinetig o’r cyrff hyn o ddŵr sy’n llifo’n gyflym ac yn rhuthro’n ôl ac ymlaen gyda’r llanw i droi llafnau tyrbinau. Gellir gosod y rhain ar strwythurau solet sydd wedi’u gosod ar wely’r môr neu sy’n arnofio mewn safle angori.

Tonnau

Ton

Achosir tonnau gan wynt yn chwythu ar draws wyneb y môr. Mae’r adnoddau tonnau gorau i’w cael mewn ardaloedd lle mae gwyntoedd cryfion wedi teithio dros bellteroedd maith, fel Sir Benfro, sydd â’r crynodiad uchaf o adnoddau tonnau yng Nghymru. Megis dechrau y mae pŵer tonnau o hyd, a dyna pam mae angen safleoedd profi cyfnod cynnar fel META arnom i ddatblygu’r dechnoleg.

GWYNT AR Y MÔR

Gwynt Arnofiol ar y Môr

Gall llwyfannau arnofiol arbenigol gynnwys tyrbinau talach yn llawer pellach allan i’r môr na ffermydd gwynt confensiynol. Mae hyn yn ein galluogi i fanteisio ar wyntoedd cryfach mewn dyfroedd dyfnach.

CYFNOD NEWYDD O YNNI

Mae gan adnoddau naturiol ein harfordir – gwynt, tonnau a llanw – botensial aruthrol i gynhyrchu ynni rhad, glân a chynnal miloedd o swyddi newydd, adnewyddadwy.