Home » Addysg

Addysg

Mae Ynni’r Môr yn cynnig y cyfle am yrfa foddhaus. Nod ein rhaglen addysg yw ysbrydoli dysgwyr am y sector a’r cyfleoedd cyflogaeth niferus a gynigir yn y dyfodol, yn unol â Chynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru.

Cwricwlwm Arfordirol

Mae ein rhaglen glodwiw ‘Cwricwlwm Arfordirol’, a ddatblygwyd trwy ein rhiant-gwmni, Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF), yn darparu teithiau maes a gweithdai i ysgolion a Choleg Addysg Bellach Sir Benfro. Rydym yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r diwydiant ynni’r môr, y cyfleoedd swyddi sydd ar gael, a’r rôl y bydd ynni adnewyddadwy yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

PONTIO’R BWLCH SGILIAU

Gallwn gynnig y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen ar aelodau i ddatblygu prosiectau strategol i helpu i bontio’r bwlch sgiliau mewn gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae ein Rheolwr Addysg yn brofiadol iawn o weithio ar y cyd â chwmnïau.

Addysg

Adnoddau Ysgol

Ar gael i’w llawrlwytho yn y Gymraeg a’r Saesneg, rydym wedi datblygu cyfres o gyflwyniadau ac ymarferion dilynol o’r cynradd i’r uwchradd fel cyflwyniad i ynni adnewyddadwy morol.

Addysg

Arddangosfa Ryngweithiol

Gan ddod â buddion ynni’r môr yn fyw, mae ein harddangosfa symudol, ryngweithiol wedi’i chynllunio i helpu i hysbysu, addysgu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffordd ymarferol. Ar gael i’w benthyca, mae’r arddangosfa yn ffordd wych o godi gwerth effaith unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus.

Addysg

Cyfleoedd Gyrfa

Trwy ein rhiant-gwmni, Fforwm Arfordir Sir Benfro, rydym yn cefnogi myfyrwyr ar leoliad sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy morol. Yn y gymuned ehangach, rydym yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i gynrychioli’r sector ynni adnewyddadwy morol mewn digwyddiadau, ac yn cynhyrchu llyfryn sy’n arddangos y llwybrau i mewn i’r diwydiant hwn sy’n datblygu’n gyflym.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD

Cysylltwch â’n Rheolwr Addysg os hoffai eich cwmni drafod sut y gallwn gydweithio.