Cymorth
Rydym yn gweithredu fel un pwynt mynediad ar draws y sector, gan gynrychioli tonnau, llanw a gwynt arnofiol ar y môr.
Allwedd i’ch llwyddiant yn y dyfodol
Yn Ynni Môr Cymru gwyddom mai cryfder ein rhwydwaith yw cyfrinach eich llwyddiant. Mae’n rhoi sylfaen wybodaeth heb ei hail i ni ac yn ein galluogi i greu’r cynghreiriau pwerus sydd eu hangen arnoch.
O gyfeirio, i rwydweithio, codi proffil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd at brosiectau strategol a chymorth ymgynghori pwrpasol. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i dyfu a datblygu.
Ymgynghoriaeth
Mae ein gwybodaeth heb ei hail am sector Ynni Môr Cymru, mynediad at chwaraewyr mawr yn y diwydiant a’n harbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ein gwneud ni mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud gwaith ymgynghori annibynnol ar gyfer cleientiaid.