Home » Ynni Morol Cymru »
Ein Cenhadaeth
Mae Ynni’r Môr Cymru yn cysylltu, yn cynrychioli ac yn hyrwyddo diwydiant ynni’r môr Cymru – gan gefnogi ei dwf a’i ddatblygiad fel y gallwn fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gyda’n gilydd a llwyddo i sicrhau dyfodol cynaliadwy, llewyrchus.
O gefnogi prosiectau blaenllaw Cymru ac arloesedd technolegol i gysylltu’r chwaraewyr allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ein nod yw cadw Cymru ar y trywydd iawn fel arloeswr byd-eang yn y sector ar y môr newydd hwn sy’n datblygu.