Profi yn yr Ardal Profi Ynni’r Môr
Rydym yn cynnal META (Ardal Profi Ynni’r Môr), canolfan brofi’r môr go iawn gyntaf Cymru a’r unig un, cyfleuster sy’n arwain y byd ac ased allweddol ar gyfer y sector ynni’r môr.
Nod META yw “defnyddio, dad-risgio a datblygu” technoleg ynni’r môr trwy brofi mewn cyfres o safleoedd sydd wedi’u caniatáu ymlaen llaw ar gyfer technoleg tonnau, llanw a FLOW yn ac o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Heb ei gysylltu â’r grid, mae META yn ddelfrydol ar gyfer datblygwyr cyfnod cynnar, ymchwil ac arloesi. Mae META yn bartner allweddol i brosiect Morol Doc Penfro, sy’n darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau i sefydlu Cymru fel canolfan o safon fyd-eang ar gyfer ynni’r môr a pheirianneg.