Arddangosfa Ryngweithiol
Archwiliad diddorol i beth yw ynni’r môr a sut mae’n cynnig ffynhonnell ynni adnewyddadwy lân, rhagweladwy i ni sy’n llawn cyfleoedd gwaith gwyrdd ar gyfer y dyfodol. Mae’r arddangosfeydd yn ymdrin ag amrediad llanw, ffrwd lanw, technolegau tonnau a gwynt ar y môr fel y bo’r angen.
Fe’i datblygwyd fel rhan o’r Ardal Profi Ynni’r Môr (META) i arddangos y dechnoleg sy’n cael ei datblygu a’i phrofi yma yng Nghymru.
Mae ein dau gabinet rhyngweithiol, cadarn wedi’u dylunio i’w benthyca i leoliadau cyhoeddus, gan gynnwys llyfrgelloedd, amgueddfeydd, arddangosfeydd digwyddiadau a chanolfannau arloesi.
Cysylltwch â’n Rheolwr Addysg i ddarganfod mwy.