Marine Energy Wales

Home » NOVA INNOVATION and Sabella CELEBRATE TIDAL SUCCESS IN WALES

Read the story in Welsh below.

TIDAL energy leaders SABELLA and Nova Innovation are celebrating after securing a 12MW berth at one of the world’s largest tidal energy sites off the coast of Holy Island, Anglesey in Wales.

Morlais is the first project win for SABELLA and Nova Innovation (Nova) after they announced in June 2021 that they will be working together on tidal energy site development. Each company will develop 6MW in the 12MW berth which covers an area of 0.65km2. A 12MW tidal turbine site could power up to 10,000 homes a year.

Both tidal turbines from SABELLA and Nova sit on the seabed and are completely submerged, with no visual impact on the landscape. The technologies produce clean, predictable energy and work in harmony with nature as marine life can freely move around them.

Fanch Le Bris, CEO of SABELLA, said:

“SABELLA is enthusiastic about this significant achievement, supporting the Welsh Government in its energy transition journey. The Morlais project illustrates the strong commitment from Nova and SABELLA teams to build capacity for tidal energy across France and the UK and deliver high-impact projects.”

Simon Forrest, CEO of Nova Innovation, added:

“Nova is delighted to be expanding in Wales and the Morlais win is testament to the hard work of our team in Wales over the years. The Morlais project provides a fantastic opportunity for SABELLA and Nova to scale up and help drive Wales’s net zero targets.”

The Morlais tidal energy zone covers an area of 35km2 in the sea. Menter Môn are responsible for managing the site and awarding the berths. The 240MW site was awarded consents for development from the Welsh Government in December 2021. Natural Resources Wales has granted a marine licence that will allow tidal turbines to be installed. Construction and operation of the project will take place in phases to allow for environmental monitoring of wildlife and habitat.

Julie James, Climate Change Minister for the Welsh Government, said:

“I welcome the news of Nova Innovation and SABELLA’s plans for expansion through the Morlais project and that it will bring highly-skilled jobs to north Wales. There is an abundance of marine resources in Wales which we need to harness in a sustainable way if we are to move towards a low carbon economy.

“We have invested heavily in a range of projects, with EU support, both in the marine energy sector and in low-carbon developments that can make an important contribution to our renewable energy targets.”

SABELLA and Nova Innovation have already started surveys at Morlais and they are looking to install their first turbines in 2023/24.

Karen Jones, a Director at Morlais, said:

“We are delighted to be working with Nova and SABELLA and look forward to developing a long-term relationship with this partnership, which will no doubt bring both economic benefits to the local area, as well as playing an important role as we all strive to reduce carbon and reach net-zero targets.”

SABELLA and Nova are looking to build on this initial project by combining expertise and developing other tidal energy sites in the UK and France.

SABELLA A NOVA INNOVATION YN DATHLU LLWYDDIANT YNG NGHYMRU

 

Mae arweinwyr y byd yn y maes ynni llanw sef SABELLA a Nova Innovation yn dathlu ar ôl sicrhau angorfa 12MW yn un o safleoedd ynni llanw mwyaf y byd oddi ar arfordir Ynys Gybi, Ynys Môn yng Nghymru.

Morlais yw’r prosiect cyntaf i SABELLA a Nova Innovation (Nova) ein hennill ar ôl iddynt gyhoeddi ym mis Mehefin 2021 y byddent yn cyd-weithio ar ddatblygu safle ynni llanw. Bydd pob cwmni yn datblygu 6MW yn yr angorfa 12MW sy’n gorchuddio arwynebedd o 0.65km2. .Gall safle tyrbin llanw 12MW ddarparu pwer i hyd at 10,000 o gartrefi’r flwyddyn.

 

Mae’r ddau dyrbin llanw gan SABELLA a Nova yn eistedd ar wely’r môr ac wedi’u gorchuddio’n llwyr, heb unrhyw effaith weledol ar y tirwedd. Mae’r technolegau’n cynhyrchu ynni glân, rhagweladwy ac yn gweithio gyda natur gan y gall bywyd morol symud o’u cwmpas yn rhydd.

 

Dywedodd Fanch Le Bris, Prif Weithredwr SABELLA:

“Mae SABELLA yn falch iawn o’r cyflawniad sylweddol hwn, gan gefnogi Llywodraeth Cymru ar y daith trawsnewid ynni. Mae prosiect Morlais yn dangos ymrwymiad cryf timau Nova a SABELLA i feithrin gallu ar gyfer ynni’r llanw ledled Ffrainc a’r DU a chyflawni prosiectau a fydd yn cael effaith sylweddol.”

 

Ychwanegodd Simon Forrest, Prif Weithredwr Nova Innovation:

“Mae Nova yn falch iawn o fod yn ehangu yng Nghymru ac mae buddugoliaeth Morlais yn dyst i waith caled ein tîm yng Nghymru dros y blynyddoedd. Mae prosiect Morlais yn gyfle gwych i SABELLA a Nova gynyddu a helpu i yrru targedau sero net Cymru.”

 

Mae parth ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35km2 yn y môr. Menter Môn sy’n gyfrifol am reoli’r safle a dyfarnu’r angorfeydd. Derbyniodd y safle 240MW ganiatâd ar gyfer datblygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded forol sy’n rhoi caniatâd i osod tyrbinau llanw. Bydd y gwaith o adeiladu a gweithredu’r prosiect yn digwydd fesul cam fel bod posib monitro amgylchedd bywyd gwyllt a chynefinoedd.

 

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: 

“Rwy’n croesawu’r newyddion am gynlluniau Nova Innovation a SABELLA i ehangu drwy brosiect Morlais. Bydd yn dod â swyddi lle mae angen sgiliau arbennigol ar eu cyfer i ogledd Cymru. Mae digonedd o adnoddau morol yng Nghymru sydd angen cael  eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy os ydym am symud tuag at economi carbon isel.

 

“Rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn ystod o brosiectau, gyda chefnogaeth yr UE, yn y sector ynni morol ac mewn datblygiadau carbon isel a all wneud cyfraniad pwysig at ein targedau ynni adnewyddadwy.”

 

Mae SABELLA a Nova Innovation eisoes wedi dechrau arolygon ym Morlais a bydd eu tyrbinau cyntaf yn cael eu gosod yn 2023/24.

 

Dywedodd Karen Jones, Cyfarwyddwr ym Morlais:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn cael gweithio gyda Nova a SABELLA ac yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas hirdymor gyda’r bartneriaeth hon. Bydd yn sicr o ddod â manteision economaidd i’r ardal leol, yn ogystal â chwarae rhan bwysig wrth i ni gyd ymdrechu i leihau carbon a chyrraedd targedau sero net.”

Mae SABELLA a Nova yn bwriadu adeiladu ar y prosiect cychwynnol hwn trwy gyfuno arbenigedd a datblygu safleoedd ynni llanw eraill yn y DU a Ffrainc.