Marine Energy Wales

Home » We are hiring – META Project Delivery Manager

Ymunwch â’n tîm – Rheolwr Cyflawni Prosiectau (META)

Wedi’i sefydlu yn 2000, mae Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn Gwmni Buddiant Cymunedol sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n gweithio i wella’r arfordir a’r amgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Fel partneriaeth arfordir mae PCF wedi datblygu ystod o brosiectau cydweithredol lleol a chenedlaethol, a ystyrir yn aml fel arfer gorau cynaliadwy, gan gynnwys Cod Morol Sir Benfro a Siarter Awyr Agored, Mapio Gweithgarwch Cymru ac Ynni’r Môr Cymru.

Mae Ynni’r Môr Cymru (MEW), yn dwyn ynghyd ddatblygwyr technoleg, y gadwyn gyflenwi, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus gyda’r nod o greu sector ynni’r môr ffyniannus ac amrywiol yng Nghymru, gan gynnwys y technolegau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer tonnau, llanw a gwynt arnofiol ar y môr. O dan y rhaglen MEW, mae’r Ardal Profi Ynni’r Môr (META) yn cael ei datblygu.

Mae META yn darparu ardaloedd dyfrffordd a gydsyniwyd, yn agos at sylfaen weithredol ynghyd â thrwyddedau a seilwaith galluogi. Wedi’i leoli’n strategol i ddarparu mynediad hawdd, cyfleuster meithrin i ddatblygwyr dyfeisiau cam cynnar ar gyfer profi cydrannau, is-wasanaethau, gweithdrefnau a dyfeisiau gweithredol, nod META yw dad-risgio lleoli yn y dyfodol a manteisio ar gadwyn gyflenwi brofiadol a sylweddol leol a chyfleuster Ymchwil a Datblygu cysylltiedig. Mae META hefyd yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe o dan y prosiect Morol Doc Penfro; Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Adnewyddadwy ar y Môr Catapult (MEECE) a Parth Arddangos WaveHub Sir Benfro.

Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni ac rydym yn disgwyl iddynt fod yn bwysig i chi:

  • Cynaliadwyedd – dim ond ar brosiectau sy’n cyfrannu at ein gweledigaeth yr ydym yn gweithio. I ni mae hyn yn golygu cymuned iach a gwydn gydag economi arfordirol ffyniannus, yn byw mewn cytgord ag adnoddau naturiol.
  • Cydweithio – rydym yn cydnabod bod ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant. Cyflawnir popeth a wnawn gydag eraill.
  • Angerdd – rydym yn angerddol am wneud gwahaniaeth; i gynaliadwyedd arfordiroedd, cefnforoedd a chymunedau.
  • Hyblygrwydd – rydym yn darparu hyblygrwydd i’n cwsmeriaid a’n tîm ac i addasu i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein harfordiroedd.
  • Dibynadwyedd – rydym wedi bod yn sicrhau canlyniadau gyda’n partneriaid er 2000, gan gyflawni effaith gadarnhaol yn gyson a rhannu arfer gorau, yn aml o brosiectau a darddodd o Sir Benfro.

Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd yn Gymraeg
Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd yn Saesneg

O Ddiddordeb? Wel, dyma ychydig mwy amdanon ni…

Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o Gwmni Budd Cymunedol cyffrous, arloesol wedi’i leoli yn unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU. Ymunwch â’n tîm o bobl angerddol tebyg sy’n gweithio ar gynaliadwyedd arfordirol.

Dewch â’ch syniadau a’ch datblygiadau arloesol gyda chi, helpwch i sicrhau canlyniadau sy’n ennill gwobrau, a gwnewch newid gwirioneddol i’r gymdeithas leol ac ehangach. Gyda buddion yn cynnwys gofal iechyd, pensiwn cystadleuol iawn, polisi gweithio hyblyg ac ethos busnes blaengar, rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr deniadol a chyflogwr Chwarae Teg.

Cyflog: £30,000-£35,000

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: Dydd Gwener 6 Awst (hanner dydd) 

Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosibl.

(Gweithio gartref ar hyn o bryd).

Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais yn Gymraeg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais yn Saesneg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen cyfle cyfartal yn Gymraeg
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen cyfle cyfartal yn Saesneg

I wneud cais am y swydd hon cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gais ynghyd â’r ffurflen cyfle cyfartal at Steve Hall – steve.hall@pembrokeshirecoastalforum.org.uk 

Join our team – META Project Delivery Manager

Do you want to join us in creating a haven for marine energy? Wales’ national Marine Energy Test Area (META) is hiring!

Established in 2000, Pembrokeshire Coastal Forum (PCF) is a multi-award-winning Community Interest Company that works to enhance the coast and marine environment for current and future generations. As a coastal partnership PCF has developed a range of local and national collaborative projects, often viewed as sustainable best practice, including the Pembrokeshire Marine Code and Outdoor Charter, Wales Activity Mapping and Marine Energy Wales.

Marine Energy Wales (MEW), brings together technology developers, the supply chain, academia and the public sector aiming to create a thriving and diverse marine energy sector in Wales, including the emerging technologies of wave, tidal and floating offshore wind. Under the MEW programme, the Marine Energy Test Area (META) is now operational and offering a range of Quayside (Phase 1) and Open Water (Phase 2) test sites.

META provides consented areas of waterway, close to an operational base complete with licenses and access to enabling infrastructure. Strategically located to provide early stage device developers with an easy access nursery facility for testing components, subassemblies, operational procedures and devices, META aims to de-risk future deployments and take advantage of a local experienced and substantial supply chain and associated R&D facility. META also works closely with its Swansea Bay City Deal partners under the Pembroke Dock Marine project; Milford Haven Port Authority, the Offshore Renewable Energy Catapult’s Marine Energy Engineering Centre of Excellence (MEECE) and WaveHub’s Pembrokeshire Demonstration Zone.

At PCF and MEW, our values are important to us and we expect them to be important to you:

  • Sustainability – we only work on projects that contribute to our vision. For us this means a healthy and resilient community with a thriving coastal economy, living in harmony with natural resources.
  • Collaboration – we recognise stakeholder engagement and working in partnership are critical to success. Everything we do is achieved with others.
  • Passion – we are passionate about making a difference; to the sustainability of coasts, oceans and communities.
  • Flexibility – we provide flexibility for our customers and our team and to adapt to the challenges and opportunities facing our coasts.
  • Reliability – we have been achieving results with our partners since 2000, consistently delivering positive impact and sharing best practice, often from projects originated in Pembrokeshire

Click here to view the job description in English
Click here to view the job description in Welsh

Interested? Well, here’s a little more about us….

This is an excellent opportunity to be part of an exciting innovative Community Interest Company based in the UK’s only coastal National Park. Join our team of likeminded passionate people working on coastal sustainability.

Bring along your ideas and innovations, help deliver award winning outcomes, and make a genuine change to local and wider society. With benefits including healthcare, highly competitive pension, flexible working policy and a fresh forward-thinking business ethos, we pride ourselves on being an attractive and a fair play Chwarae Teg employer.

Salary: £30,000-£35,000

Application Deadline: Friday 6th August (noon)

Start Date: ASAP

Based in Pembroke Dock (Currently home working).

Click here to download the application form in English
Click here to download the application form in Welsh
Click here to download the equal opportunities form in English
Click here to download the equal opportunities form in Welsh

To apply for this position please complete and return the application form along with the equal opportunities form to Steve Hall – steve.hall@pembrokeshirecoastalforum.org.uk 

 

META is part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government, and the Coastal Communities Fund, and aims to contribute towards Wales’ plans to play a key role in a growing global market.

 

European Regional Development Fund