Marine Energy Wales
Home » Cymorth » Cynghrair Datblygwyr y Môr Celtaidd (CSDA)

Cynghrair Datblygwyr y Môr Celtaidd (CSDA)

Corff aelodaeth yw Cynghrair Datblygwyr y Môr Celtaidd (CSDA) sy’n cael ei gynnal gan Ynni Morol Cymru sy’n cynrychioli datblygwyr gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. Wedi’i lansio yn Nulyn yn 2019 mae aelodaeth y gynghrair yn ymestyn dros Gymru, Cernyw ac Iwerddon.

NOD y CSDA

Mae’r CSDA yn hyrwyddo’r cyfle sy’n bodoli yn y Môr Celtaidd ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr i gefnogi ymgyrch y DU ac Iwerddon tuag at sero net a sicrwydd ynni. Mae’r CSDA yn hwyluso cydweithio ac ymgysylltu rhwng datblygwyr Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) i hyrwyddo’r sector a chefnogi’r gwaith o ddarparu ynni gwynt arnofiol yn rhanbarth y Môr Celtaidd.

PAM YMUNO Â’R CSDA?
cysylltu

Hyrwyddo a chynrychiolaeth o'r sector

Mae’r CSDA yn darparu llais unedig gyda negeseuon cyson i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth a chryfhau ymgysylltiad rhanddeiliaid.

Adeiladu eich rhwydwaith

Rhwydweithio ac adnoddau

Fel aelod o CSDA bydd eich cwmni neu brosiect yn elwa o gynrychiolaeth sector â ffocws a chymorth gan ein Rheolwr Prosiect FLOW yn ogystal â mynediad i gyfleoedd a digwyddiadau rhwydweithio.

Cydweithio

Cydweithio

Mae’r CSDA yn helpu i uno buddiannau trawsffiniol Iwerddon, Cymru a De-orllewin Lloegr i hyrwyddo cynnydd cydlynol a dysgu ar y cyd er mwyn sicrhau’r buddion rhanbarthol mwyaf posibl.

YMUNO Â’R CSDA

Ymunwch â’n haelodaeth gynyddol o ddatblygwyr, gweithgynhyrchwyr, ymchwilwyr, cyrff statudol a chynghreiriau i adeiladu dyfodol iach, ffyniannus a llewyrchus wedi’i danio gan y môr.