Marine Energy Wales
Home » Cymorth » Ymgynghoriaeth

Ymgynghoriaeth

Mae ein gwybodaeth heb ei hail am sector Ynni Môr Cymru, mynediad at chwaraewyr mawr yn y diwydiant a’n harbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ein gwneud ni mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud gwaith ymgynghori annibynnol ar gyfer cleientiaid.

Cyfoeth o wybodaeth a phrofiad

Mae gan ein tîm brofiad o gynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid, adolygiadau llenyddiaeth, casglu a dadansoddi data. Os ydych am gomisiynu darn o waith i ddeall agweddau ar sector Ynni Môr Cymru yn well, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Enghreifftiau o’n gwaith:

Porthladd Aberdaugleddau

Porthladd Aberdaugleddau

Cymorth parhaus i ymchwilio i ba raddau y gall ynni adnewyddadwy ar y môr gyfrannu at ddatgarboneiddio rhanbarthol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi cysylltiedig, a galw’r farchnad am uwchraddio seilwaith porthladdoedd.

Darparodd MEW gymorth ac arbenigedd amhrisiadwy i Borthladd Aberdaugleddau fel rhan o brosiect cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC). Rydym yn gwerthfawrogi’r bartneriaeth waith sydd gennym gyda MEW ac yn eu hystyried yn sefydliad allweddol sy’n arwain ar y cyfnod pontio sero net yng Nghymru.
Tam Bardell, Rheolwr Datblygu Ynni ym Mhorthladd Aberdaugleddau

Porthladd Aberdaugleddau

BWLCH SGILIAU

Astudiaeth ymchwil yn amlinellu’r her sgiliau ar gyfer newydd-ddyfodiaid yn y sector ynni presennol a newydd yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.

Celtic Sea Power (mewn cydweithrediad ag Apollo ac Aquatera)

Fe wnaethom gynllunio a chynnal studiaeth rhanddeiliaid i ddatblygu gwell dealltwriaeth o angen y farchnad am ymchwil môr go iawn a chyfleusterau profi datblygiad yn y Môr Celtaidd.
Blue Gem Wind

Adnoddau Blue Gem

Pecyn addysg dwyieithog hwyliog, yn cynnwys cwis, her ystafell ddosbarth ac ymarferion sy’n hyrwyddo gwyddoniaeth a pheirianneg i helpu myfyrwyr ysgol gynradd i ddeall effaith newid hinsawdd a thechnoleg gwynt fel y bo’r angen.
Model Gwynt Arnofiol

Adnoddau Energy Kingdom Aberdaugleddau

Llyfr gwaith a chyflwyniad gweithgaredd dwyieithog yn dangos sut y gellir troi ynni adnewyddadwy yn danwydd hydrogen i ddiwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol.
MHEK Resources

Allwn ni eich helpu chi?

Cysylltwch heddiw i ddarganfod mwy am ein hymgynghoriad.